Adam Price
Dyw Adam Price ddim yn meddwl am ddyfodol posib yn arwain Plaid Cymru.

Yn ol y gwleidydd sydd wedi’i fedyddio’n ‘Fab Darogan’, dyw’r cwestiwyn o bwy fydd arweinydd nesa’r blaid ddim eto wedi codi, ac mae’n parhau yn driw i Leanne Wood.

Ond fe gododd cwestiynau ynglyn ag arweinyddiaeth Plaid Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ar ôl i Rhun ap Iorwerth ddweud ar y Maes y byddai’n ystyried sefyll i fod yn arweinydd rhyw ddydd.

Mae aelodau a gwleidyddion Plaid Cymru wedi’u rhannu ar y mater – gyda rhai yn cefnogi Leanne Wood i’r carn ac eraill yn dweud bod angen newid ac y dylai’r blaid fod wedi perfformio’n well mewn etholiadau diweddar.

Problem

Serch hynny, mae Adam Price yn dweud bod hynny’n broblem i Blaid Cymru gyfan, nid dim ond yr arweinydd.

“Mae Leanne yn wynebu’r un broblem â’r Blaid, hynny yw, mae pobol yn hoffi’r Blaid ond ddim yn pleidleisio drosti yn y niferoedd y byddwn ni’n dymuno ac mae hynny wedi bod yn wir am gyfnod hir iawn,” meddai Adam Price wrth golwg360.

“Yr her yw trosi’r teimladau cynnes yna i gefnogaeth wirioneddol ond dyw Leanne ddim yn wahanol i’r Blaid yn hynny o beth ac i raddau helaeth, dw i’n credu bod Leanne wedi agor pontydd i gynulleidfaoedd o gefnogaeth.”

Dywed nad oes “rheswm o gwbwl dros newid yr arweinydd”.

“Dw i ddim yn credu bod fi wedi gweld dadl gall dros hynny. Mae’n obsesiwn dw i’n credu sy’n adlewyrchu’r oes rydyn ni’n byw ynddi, y duedd yma i weld gwleidyddiaeth fel estyniad o ddiwylliant celebrity ac yn y blaen, bod ni’n gor-ffocysu ar unigolion.

“Nid dyna’r ymagwedd dw i’n credu y dylwn ni gymryd gyda’r Blaid.”

Neil Hamilton

Mae hyd yn oed pobol y tu allan i Blaid Cymru wedi cyfrannu at y ddadl, a Neil Hamilton o UKIP yn awgrymu y byddai’n hoffi gweld Adam Price wrth lyw’r Blaid.

Ond roedd yr Aelod Cynulliad yn mynnu nad yw’r posibilrwydd wedi croesi ei feddwl.

“Dyw’r cwestiwn ddim yn codi i fi. Dw i eisiau gweld Llywodraeth Plaid Cymru a dw i eisiau gweld Leanne yn Brif Weinidog.

“Dw i ddim eisiau ychwanegu at y speculation sydd wedi bod achos nid dyna lle mae fy meddwl i ar hyn o bryd.”