Neil Hamilton
Yn ôl Arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, “ddaw dim byd o Blaid Cymru” dan eu harweinydd presennol, Leanne Wood.

Mewn datganiad mae Neil Hamilton yn mynnu bod Leanne Wood wedi “cefnu ar gynlluniau” i herio “Llywodraeth Lafur parhaol” a bellach mae’r blaid ond yn “was i’r Blaid Lafur”.

Mae hefyd yn beirniadu’r Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth – wnaeth nodi wythnos diwethaf y byddai’n ystyried olynu Leanne Wood.

Pobol “calon wan” yw’r ddau wleidydd yn ôl Neil Hamilton ac mae’n nodi na fyddai sefyllfa Plaid yn wahanol dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth.

Mae Leanne Wood wedi ymateb ar Twitter gan nodi: “Plaid Cymru yw’r cartref i bawb sydd wedi blino â cham-lywodraethu Llafur ac sydd am weld newid.”

Cenedlaetholdeb “go iawn”

Yn y datganiad mae Neil Hamilton hefyd yn nodi enwau’r unigolion y hoffai weld yn olynu Leanne Wood.

Dywed byddai’r “Aelodau Cynulliad effeithlon”, Adam Price a Neil McEvoy, yn cynnig arweinyddiaeth well ac y byddan nhw’n “chwalu’r consensws cyfforddus ym Mae Caerdydd.”

Mae hefyd yn datgan bod UKIP yn “blaid genedlaetholgar go iawn” ac yn nodi y byddai’r blaid yn “hapus i weithio â Phlaid Cymru”.