Gŵr ifanc yn wreiddiol o’r Ffôr, Pwllheli sydd wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn.

Mae Osian Rhys Jones, 32, erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel cynhyrchydd a golygydd digidol.

Mae hefyd yn aelod o dîm talwrn Y Glêr ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru.

Mae’n ennill y Gadair, sydd wedi’i rhoi eleni i nodi can mlwyddiant ers i Hedd Wyn ennill y Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw.

Dywedodd y beirniaid bod hi’n gystadleuaeth safonol iawn, gyda thri yn haeddu cael eu cadeirio – Ail Son, Merch y Drycinoedd a Gari.

Roedd y beirniaid Huw Meirion Edwards ac Emyr Lynch am i Gari ennill, gyda Peredur Lynch yn ffafrio Merch y Drycinoedd – ond roedd yn hapus i gadeirio Gari.

12 oedd wedi cystadlu gyda “phump yn y ras” yn ôl y beirniaid.

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Peredur Lynch bod yr awdl fuddugol yn “seicolegol ddwys”.

“Mae hi’n agor ym mis Tachwedd hefo dyn ifanc ar fin ei fwrw ei hun oddi ar bont reilffordd i lwybr trên. Ond yna mae o’n ymatal,” meddai.

“Ar ȏl yr agoriad dramatig mi gawn ni’n harwain drwy fisoedd tywyll y gaeaf hyd at ddyfodiad mis Mai ac mae’r awdl yn gronicl o fywyd y prif gymeriad dros gyfnod o saith mis…

“Mae yna ymdeimlad llethol o gaethiwed yma wrth i’r gŵr ifanc ymgodymu hefo disgwyliadau cymdeithasol y mae’n o’n waelodol sinigaidd yn eu cylch.

“Erbyn diwedd yr awdl mae’n hi’n fis Mai. Mae’r bardd yn ôl ar y bont reilffordd. Mae o wedi llwyddo i fagu adenydd i ddianc rhag ei amgylchiadau.

“Ond mae’r diweddglo yn amwys. Ai magu adenydd i ddianc rhag ei iselder wnaeth o, ynteu magu’r hyder i neidio oddi ar y bont? Dyna’r dirgelwch sy’n cloi’r awdl.”

Hunanladdiad – trasiedi cenhedlaeth heddiw

“Canrif yn ôl y rhyfel mawr oedd yn lladd y rhan fwyaf o ddynion ifanc ond yn ddiweddar, yr ystadegyn yw [mai] hunanladdiad sy’n lladd pobol ifanc,” meddai Osian Rhys Jones wrth golwg360

“Mae hynny’n drasiedi yn ei hun, felly ro’n i jyst yn meddwl sut fuasai trasiedi ein cenhedlaeth ni yn edrych heddiw ac a fuasai’r prif gymeriad yn y trasiedi yna yn llwyddo i oroesi neu beidio.

“Mi oedd o’n seicolegol iawn ond mi odd o hefyd mewn bywyd bob dydd, mae yna brofiadau dinesig o fy mywyd i ynddo fo sydd yn gallu dangos efallai ei fod o yn y byd go iawn, er ei fod e’n seicolegol.”

‘Brawdgarwch’ barddoni

Wrth sôn am y don o feirdd ifanc heddiw, dywedodd Osian Rhys Jones:  “Mae o’n hwyl, mae lot ohonom ni’n gwneud o efo’n gilydd a rydan ni’n mwynhau gwneud o.

“Rydan ni’n gwneud pethau fel nosweithiau byw, rydan ni’n cyfansoddi efo’n gilydd, yn tynnu coes ein gilydd.

“Mae yna frawdgarwch a chwaergarwch hefyd rhwng y beirdd i gyd… er bod barddoni yn rhywbeth unigol, mae yna gymaint o gymdeithasu yn rhan ohono fo.”