Lee Roach Llun: Heddlu De Cymru
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dyn 37 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot ddydd Sul, 6 Awst.

Fe fu beic modur Lee Roach, o Sandfields, Port Talbot, mewn gwrthdrawiad a cherbyd oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall ar Heol Cwmafon am 10yb ddydd Sul.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu fod Lee Roach yn fab, brawd a thad cariadus “a oedd yn byw bywyd i’r eithaf” ac y bydd “colled fawr” ar ei ôl.

Mae’n gadael mab, Kian, sy’n 8 oed a “channwyll ei lygad.”

Dylai unrhyw un a oedd wedi gweld y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu gan nodi’r cyfeirnod 1700305476.