Elfed Roberts (Llun: golwg360)
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, wedi galw ar ymwelwyr i fod yn “amyneddgar” gyda phroblemau mwd a thir gwlyb ar y maes.

Wrth siarad â golwg360 dywedodd ei fod yn cydnabod bod “problemau i rai” yn dilyn tywydd gwael ddydd Sul  ond ychwanegodd bod yna “drefniadau mewn llaw i lanhau’r maes.”

“Rydan ni yn gofyn i bobol fod yn ofalus ac rydym yn gofyn i bobol wisgo’n gall os ydyn nhw’n dod. Ac wedyn i fod yn amyneddgar,” meddai Elfed Roberts wrth golwg360.

“Mae ‘na broblemau i rai pobol efo’r maes ond efo’r dŵr a’r glaw gawsom ni ddoe dw i ddim yn meddwl bydda neb wedi gallu gwneud yn wahanol nac yn well nag yr ydym wedi gwneud ar hyn o bryd.”

Meysydd parcio

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisoes wedi cyhoeddi trefniadau teithio brys oherwydd y glaw trwm dros nos sydd yn golygu nad oes modd parcio ger y maes ym Modedern.

Gobaith  Elfed Roberts yw y bydd y tywydd yn gwella yn ystod yr wythnos gan alluogi i’r Eisteddfod ail-agor ambell i faes parcio.

“Rydan ni erbyn hyn yn asesu pob un dim trwy gydol y dydd pob dydd,” meddai. “Felly fe wnawn ni ymateb wrth i bethau ddatblygu.”

“Rydym yn gobeithio erbyn dydd Mercher, bydd y meysydd parcio – sydd ddim yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd – wedi cael cyfle i sychu ac y byddwn yn gallu defnyddio rheina eto. Ond, gawn ni weld.”