Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod dyn o Gaerloyw wedi marw ar ôl cael ei gwrso ganddyn nhw ar yr M4.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 32 a chyffordd 30 y draffordd am oddeutu 6 o’r gloch neithiwr.
Roedd car Ford Focus a Landrover Freelander mewn gwrthdrawiad â’i gilydd i gyfeiriad y dwyrain pan gafodd gyrrwr y Ford Focus anafiadau angheuol.
Cafodd gyrrwr y Landrover Freelander anafiadau nad ydyn nhw’n rhai difrifol.
Roedd yr heddlu wedi defnyddio dyfais ‘stinger’ i atal gyrrwr y Ford Focus funudau cyn y gwrthdrawiad gan ei fod yn gyrru’n beryglus ar hyd y draffordd.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.