Simon Brooks
Mae angen troi’r ffrae fawr dros godi tai yng Ngwynedd yn rhywbeth positif ac ymateb “efo syniadau radical”.

Dyna ddywed un ymgyrchydd iaith blaenllaw sy’n galw am gynnal arolwg annibynnol o sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y sir, a llunio adroddiad fydd yn arwain at osod targedau pendant ynghylch denu swyddi a chryfhau cymunedau Cymraeg.

Daw’r alwad gan academydd adnabyddus yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog.

Bu Simon Brooks yn un o arweinwyr y mudiad Cymuned fu’n brwydro dros barhad y Fro Gymraeg, ac mae yn awdur sawl llyfr ar ddyfodol yr iaith.

Bellach mae yn gynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, panel sy’n cynghori Gweinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â’r iaith.

“Dw i’n aruthrol o siomedig fod y Cynllun Datblygu wedi cael ei basio, sy’n rhoi dyfodol cymunedau Cymraeg yng Ngwynedd a Môn mewn peryg,” meddai Simon Brooks.

“Un o’r petha’ trista’ am y ddadl oedd bod bron pawb yn cydnabod bydd y Cynllun Datblygu yn gwneud niwed i’r Gymraeg. Roedd yr anghytundeb ynglŷn â faint o niwed, ac a fyddai derbyn neu wrthod y Cynllun yn gwneud y niwed yn fwy neu’n llai.

“Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed uchelgeisiol o ran cynyddu canran a nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

“Mae yna berygl gwirioneddol efo’r Cynllun Datblygu na fydd Gwynedd a Môn yn gwneud cyfraniad o ran hyn.

“Yn sicr, dwi ddim yn meddwl ein bod ar y llwybr i godi siaradwyr Cymraeg Gwynedd o 65% i 70% fel mae Cyngor Gwynedd ei hun eisiau.

“Mae’r Cynllun Datblygu yn dweud y bydd camau i liniaru niwed i’r iaith, felly’r cwestiwn ydi pa gamau fydd yn cael eu cymryd?

“Byddwn i’n licio gweld cynghorau Gwynedd a Môn yn comisiynu adroddiad annibynnol, cynhwysfawr, hyd braich a fydd yn gwneud argymhellion pendant a chaled ynglŷn â sut y gallwn ni gryfhau cymunedau Cymraeg yn y rhan yma o’r byd.

“Dylai’r arolwg edrych ar bob elfen o waith llywodraeth leol…

“Mae angen edrych ar y Gymraeg fel iaith fewnol yng Nghyngor Môn.

“Ydi’r rhicyn o 70% fel y ganran o’r cwricwlwm sy’n cael ei ddysgu trwy’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd yng Ngwynedd yn ddigon uchel?

“Mae yna rieni yng Ngwynedd sy’n flin fod eu plant yn gorfod cael traean o’u haddysg trwy’r Saesneg.”

Denu swyddi o Gaerdydd

Roedd Simon Brooks yn llafar iawn yn y frwydr lwyddiannus i gadw 17 o swyddi’r swyddfa dreth ym Mhorthmadog.

Ym mis Chwefror roedd yn condemnio penderfyniad Llywodraeth Cymru i leoli pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru yn Nhrefforest, rhyw ddeng milltir o Gaerdydd.

Bydd yr Awdurdod Cyllid yn cyflogi 40 o swyddogion i gasglu dros biliwn o bunnau mewn trethi.

Dyma’r math o swyddi ddylai fod yn cael eu lleoli yng Ngwynedd a Môn, yn ôl Simon Brooks.

“Mae eisiau edrych ar sut y gallwn ni ddenu swyddi cyhoeddus o Gaerdydd i Wynedd.

“Mi wnaeth Cyngor Tref Porthmadog ymgyrchu’n llwyddiannus i rwystro swyddfa dreth Porthmadog rhag mynd i Gaerdydd.

“Ond ble mae strategaeth Cyngor Gwynedd o ran denu cyrff cyhoeddus i’r sir?

“Efo’r holl dai gweigion sydd ar fin cael eu codi yma, byddech chi’n meddwl fod rhywun efo strategaeth o ran denu Cymry Cymraeg yn ôl yma i fyw.

“Mae eisiau i ni ofyn hefyd ydyn ni’n fuddsoddi digon mewn mentrau iaith yma? Yn fy marn i, dydyn ni ddim. Does yna’r un gymuned yng Ngwynedd a Môn yn ddiogel yn ieithyddol erbyn hyn.

“Mae’n beth gwych fod y Steddfod ym Môn eleni.

“Ond pam nad ydi Gwynedd yn ei gwahodd hefyd o feddwl fod cynghorau tref Caernarfon a Phorthmadog wedi gofyn am hyn?

“Dydi’r strategaeth iaith sydd gan Wynedd ar hyn o bryd ddim yn hanner digon cryf i ymdopi gyda’r mewnlifiad sylweddol a fydd yn dilyn codi miloedd o dai.

“A dyw’r targedau ddim yn ddigon pendant nac uchelgeisiol.

“Mae pob corff cyhoeddus angen cyfaill beirniadol. Am mai Gwynedd ydi’r cyngor sir gorau yng Nghymru o ran y Gymraeg, dydi o ddim yn cael ei herio’n ddigon.

“Ac mae Môn ymhell ar ei hôl hi mewn cymhariaeth efo Gwynedd, a dylai cynghorwyr Môn ofyn pam eu bod ar ei hôl hi pan fo’r math o gymdeithas sydd gennych chi yng Ngwynedd a Môn yn debyg.

“Mae llawer iawn o enillion ieithyddol yng Ngwynedd yn perthyn i genhedlaeth Dafydd Orwig.

“Mae eisiau i gynghorau Gwynedd a Môn, y ddau ohonyn nhw o dan reolaeth Plaid Cymru, ymateb i’r her yn y genhedlaeth hon efo syniadau radicalaidd.”