Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith grŵp o brifysgolion elît sy’n galw am sicrwydd y bydd acaddmwyr a myfyrwyr o Ewrop yn gallu aros ar ôl Brexit.

Mae Grŵp Russell o 24 o brifysgolion yn dweud y dylai academyddion Ewropeaidd sydd yma gael eu symud yn syth i statws newydd sy’n caniatáu iddyn nhw fyw yng ngwledydd Prydain.

Maen nhw hefyd eisiau addewid y bydd myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n dechrau astudio yn ystod y ddwy flynedd nesa’ yn cael sicrwydd y bydd cyfle iddyn nhw aros.

Yn ôl y prifysgolion, mae 25,000 o staff y 24 prifysgol yn dod o rannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd.

“R’yn ni’n gwerthfawrogi ein cydweithwyr o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd. “R’yn ni eisiau iddyn nhw aros.”