Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud nad oes cynlluniau, ar hyn o bryd, i anfon heddlu arfog i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn.

Yn ôl uwch swyddog y llu yn y gogledd, Rob Kirkham, mae hyn yn “adlewyrchiad” o’r lefel o fygythiad sy’n wynebu’r Eisteddfod Genedlaethol a’r gymuned ehangach.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru”, meddai, “yn gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod, a gyda’r sefydliad hwnnw, rydym ni’n anelu at sicrhau y bydd yr ŵyl ddiwylliannol fawr hon yn cael ei dathlu mewn awyrgylch sy’n ddiogel i bawb.

“Mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn parhau i adolygu ein cynlluniau a’n trefniadau gan gyd-weithio â’r Eisteddfod, a phe bai unrhyw newididau i’r trefniadau’n digwydd, mi fyddwn ni’n hysbysu pobol trwy gyfrwng y cyfryngau.”

Mae’r newyddion yn dilyn persenoldeb yr Heddlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed yn gynharach eleni ac ar maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yr wythnos ddiwethaf.