Cwmni adeiladu yn Rhydaman sydd wedi ennill contract mawr gan Aston Martin a fydd yn dod â gwaith adeiladu gwerth miliynau o bunnau i Gymru.
Hwn oedd y tro cyntaf i gontractau ar gyfer y sector preifat gael eu hysbysebu drwy wefan Llywodraeth Cymru, GwerthwchiGymru, a hynny er mwyn sicrhau y gallai cwmnïau yng Nghymru elwa ar benderfyniad Aston Martin i ddod i Gymru.
Fe wnaeth cwmnïau ledled y Deyrnas Unedig dendro am y gwaith yn Sain Tathan, ond heddiw cyhoeddodd Aston Martin fod TRJ Cyf yn Rhydaman wedi llwyddo i ennill contract uchel ei werth ar gyfer Cam 2 y gwaith o adeiladu ei ffatri weithgynhyrchu newydd.
Roedd y cwmni eisoes wedi ennill contract ar gyfer Cam 1 y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2016.
“Dyma gam arall ein menter yng Nghymru, wrth i’r gwaith adeiladu’r ffatri fynd rhagddo,” meddai Andy Palmer, Prif Swyddog Gweithredol a Llywydd Aston Martin.
“Roedd TRJ wedi cwblhau cam 1 yn llwyddiannus ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod cam nesa’r prosiect.”
Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Aston Martin ei fod wedi dewis Sain Tathan o blith 20 lleoliad posibl eraill yn y byd ar gyfer ei ail safle gweithgynhyrchu. Dechreuodd ymgyrch recriwtio’r llynedd i chwilio am hyd at 750 o weithwyr ar gyfer y safle.
Mae dros 40 o’r gweithwyr newydd hyn eisoes yn gweithio a hyfforddi yn safle gweithgynhyrchu’r cwmni yn Gaydon, yn Swydd Warwick.