Protest 'Dim Peilonau ar Ynys Mon', yn Birmingham (Llun gan y grwp)
Mae aelodau grŵp ymgyrchu o Ynys Môn wedi llwyddo lleisio eu pryderon i Fwrdd y Grid Cenedlaethol yn ystod eu cyfarfod blynyddol yn Birmingham.

Bu aelodau ‘Dim Peilonau ar Ynys Môn’ yn protestio tu fewn a thu allan i’r adeilad lle cafodd y cyfarfod ei gynnal, ac yn ystod y cyfarfod cafodd dau o’r ymgyrchwyr eu gwahodd i ofyn cwestiynau.

Mae’r grŵp yn gwrthwynebu cynlluniau i sefydlu peilonau ar Ynys Môn ac yn galw ar y Grid Cenedlaethol i gladdu ceblau’r ceblau trydanol yn lle.

Dadl y grŵp yw gallai’r peilonau gael effaith negyddol ar incwm a swyddi’r sectorau twristiaeth ac amaethyddol ar Ynys Môn.

Yn dilyn y cyfarfod cytunodd y Bwrdd y Grid Cenedlaethol i drafod ymhellach â’r tîm o Ynys Môn, a chafodd yr ymgyrchwyr gyfle i fynegi pryderon pobol y sir mewn mwy o ddyfnder.

“Trafod problemau”

“Roedd yn galonogol i gael cyfle i siarad â’r swyddogion uchaf yn y Grid Cenedlaethol ac i drafod y problemau sydd gennym ni yn lleol gyda’r prosiect hyd yn hyn,” meddai aelod o’r grŵp Pam Lee.

“O leiaf gawsom lais yma ac edrychwn ymlaen at ganlyniadau mwy cadarnhaol ar gyfer Ynys Môn gan fod y broses adolygu ar gyfer y prosiect hwn yn symud yn ei flaen.”