Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes ym Mangor fore heddiw (Gorffennaf 31).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Nhrem y Garnedd, toc wedi 9yb, yn dilyn adroddiadau bod dynes leol wedi’i hanafu’n ddifrifol.
Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn credu bod dyn wedi gadael yr eiddo yn gynharach yn y bore.
Cafodd ei arestio yn Y Felinheli ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cymorth i deulu’r ddynes.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ac yn apelio ar unrhyw un a oedd yn Nhrem y Garnedd fore heddiw i gysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.