Lisa Mathias (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am ddynes 32 oed o Gaerffili, sydd ar goll ers nos Wener.

Dydy Lisa Mathias ddim wedi cael ei gweld ers hynny, ac mae’r heddlu’n gofidio amdani.

Roedd hi yng Nghaerdydd pan gafodd hi ei gweld ddiwethaf.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.