Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati “ar frys” i ailfeddwl eu strategaeth coetiroedd, yn ôl adroddiad un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Yn ôl yr adroddiad mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn “fwy uchelgeisiol” o ran eu strategaeth ac mae angen cynyddu’r nifer o goed sydd yn cael eu plannu.

Mae’r pwyllgor yn cynnig nifer o argymhellion ac yn awgrymu dylai’r Llywodraeth geisio sicrhau bod o leiaf 20% o drefi a dinasoedd Cymru wedi’u gorchuddio â choed erbyn 2030.

Bydd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cael ei lansio heddiw yn Sioe Frenhinol Cymru.

“Potensial mawr”

“Canfu ein hadroddiad fod potensial mawr yng Nghymru i blannu mwy o goed a chreu mwy o goetiroedd, ac i ateb y galw am bren sy’n bodoli mewn rhannau eraill o’r DU,” meddai llefarydd ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

“Rydym yn gwybod bod disgwyl i’r galw am bren sy’n cael ei blannu yn y wlad hon godi wrth i’r diwydiant adeiladu weithio i leihau ei ôl-troed carbon.  Bydd creu mwy o goetiroedd yn dod â buddion eang i ni i gyd.”

“Mwy o goed yng Nghymru”

“Rydym yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am yr adroddiad ac mi fyddwn yn astudio’r argymhellion yn fanwl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Hoffwn weld mwy o goed a choetiroedd yng Nghymru. Rydym yn gweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i wella’r ffordd mae’r amryw o brosesau rheoli yn cael eu gweithredu er mwyn amddiffyn cynefinoedd wrth gynyddu plannu coetiroedd.”