Fe fydd rhagor o blismyn ar ddyletswydd yn Ninbych-y-pysgod dros yr wythnosau nesaf wrth i Heddlu Dyfed Powys lansio ymgyrch i fynd i’r afael â’r cynnydd o ran trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref dros fisoedd yr haf.

Fe fydd Ymgyrch Lion yn cael ei gynnal yn Ninbych-y-pysgod hyd at 28 Awst.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi gweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Threnau Arriva Cymru “i helpu pobl sy’n dod i Ddinbych-y-pysgod ar y trên gyrraedd yno ac yn ôl yn ddiogel.”

Bydd swyddogion heddlu o’r ddau heddlu ar y trenau a’r platfformau ar benwythnosau er mwyn helpu gyda’r nifer fawr o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Alcohol

Dywedodd Aled Davies, Arolygydd Dinbych-y-pysgod: “Mae Dinbych-y-pysgod yn gartref i amryw o atyniadau twristiaid a digwyddiadau, gan gynnwys Tenby Spectacular, a phrofiadau sy’n hwb mawr i’r boblogaeth dros fisoedd yr haf. Mae’r holl ymwelwyr, ynghyd ag amrywiaeth yr ardal, yn cyflwyno heriau i ni fel heddlu. Yr haf hwn, rydyn ni’n ceisio helpu pobl i fwynhau’n rhanbarth unigryw drwy gynnig cyngor i’w helpu i wneud hynny.

“Yn y gorffennol, rydyn ni wedi gweld lleiafrif o bobl yn dod i Ddinbych-y-pysgod er mwyn ymweld â’r tafarndai a’r clybiau sydd yna’n achosi helynt o ganlyniad i yfed gormod o alcohol. Yn aml, mae rhai o’r unigolion hyn wedi cyrraedd ar y trên yn feddw felly drwy weithio’n agos â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Threnau Arriva Cymru, byddwn ni’n medru atal pobl rhag mynd ar y trên i Ddinbych-y-pysgod yn y lle cyntaf os nad yw eu hymddygiad yn dderbyniol.

“Yn ogystal â swyddogion ychwanegol yng ngorsafoedd trên Dinbych-y-pysgod, bydd swyddogion ychwanegol yn patrolio ar droed o gwmpas y dref o’r prynhawn cynnar ymlaen. Rydyn ni’n gweithio’n agos â busnesau lleol a’r gymuned i wneud yn siŵr bod Dinbych-y-pysgod yn parhau i fod yn lleoliad poblogaidd i bawb fwynhau.

“Rydyn ni’n ffodus iawn ein bod ni’n byw a gweithio mewn man y mae pobl eisiau ymweld ag ef ac rydyn ni’n croesawu ymwelwyr â’r ardal i ddod i fwynhau sydd ar gael, ond ni fyddwn ni’n dioddef pobl yn ymddwyn yn wael ac yn difetha’r hwyl i bawb.”