Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio Bil (dydd Mawrth, Gorffennaf 18) a fydd yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag Mesur Undebau Llafur Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Y llynedd, fe basiwyd y Ddeddf Undebau Llafur 2016 yn San Steffan, sy’n pennu trothwyon newydd llym o ran canran y pleidleisiau o blaid streicio yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae hi hefyd yn monitro ac yn cyfyngu ar y gweithgareddau y mae undebau llafur yn ymgymryd â nhw er mwyn cefnogi’r gweithlu.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, addysg, llywodraeth leol a’r gwasanaeth tân yn enghreifftiau o wasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, ac mae Bil Undebau Llafur Llywodraeth Cymru yn datgymhwyso’r rhannau o ddeddf y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â’r gwasanaethau hynny.

Mae’n golygu y bydd y trothwy o 40% o’r pleidleisiau o blaid streicio, y darpariaethau sy’n ymwneud ag amser cyfleuster yr undebau llafur, a’r amodau ar ddidynnu’r tâl a godir am ymaelodi ag undeb o’r gyflogres, yn cael eu gwrthdroi. Fyddan nhw ddim yn gymwys i Gymru o hyn allan.

Mae’r Bil hefyd yn diogelu’r sefyllfa o ran atal gweithwyr asiantaethau rhag gweithio yn lle gweithwyr y sector cyhoeddus pan maen nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol.

Cymru’n gwneud pethau’n wahanol 

“Mae heddiw’n ddiwrnod arwyddocaol iawn i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a hefyd i ddatganoli ei hun,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, yn Llywodraeth Cymru.

“Ddylen ni byth fod wedi cael ein rhoi mewn sefyllfa lle’r oedd yn rhaid inni gyflwyno Bil er mwyn gwrthdroi rhannau o un o ddeddfau’r Deyrnas Unedig. Dro ar ôl tro, fe wnaethon ni rybuddio’r llywodraeth yn San Steffan fod y ddeddfwriaeth hon, a fydd yn achosi niwed a rhwygiadau, yn ymyrryd â pholisïau datganoledig a phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Fe wnaeth hyd yn oed ei chyfreithwyr ei hun ei chynghori y byddai ar dir sigledig – ond penderfynodd fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth beth bynnag.

“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dewis gweithredu yn y ffordd briodol, gan ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru rhag Deddf y Deyrnas Unedig, sy’n troi’r cloc yn ôl. Byddwn ni’n mynd ati mewn ffordd gadarn iawn i amddiffyn rhag unrhyw ymgais i ymyrryd yn y broses gyfreithlon a democrataidd hon.”