Mae’r cynnydd ym mhoblogrwydd Caerdydd fel lleoliad gwyliau wedi bod yn fwy nag unrhyw leoliad arall yn Ewrop yr haf hwn, yn ôl un gwefan.

Yn ôl ffigurau newydd gan Kayak.co.uk cynyddodd chwiliadau am westai yng Nghaerdydd gan 223% eleni o gymharu â haf y llynedd.

Mae ystadegau’r wefan yn adlewyrchu chwiliadau ar-lein gan Brydeinwyr yn unig.

Digwyddiadau niferus yn y brifddinas a “diwylliant, celfyddydau a bwytai ffyniannus” sy’n gyfrifol am y cynnydd yma yn ôl gwefan Kayak.co.uk.

“Ddim yn synnu”

“Dyw e ddim yn fy synnu mewn gwirionedd bod mwy o bobl wedi bod yn chwilio am Gaerdydd ar gyfer eu gwyliau yr haf yma,” meddai’r Cynghorydd Cyngor Caerdydd, Peter Bradbury.

“Mae cymaint yn digwydd yma i’r teulu cyfan yn ein dinas ysblennydd drwy gydol yr haf ac mae ymwelwyr yn siŵr o gael croeso cynnes iawn.”