Mae cyn-bennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn “poeni” ac yn “pryderu” ynghylch sefyllfa bresennol yr adran.

Bu’r Athro Gruffydd Aled Williams yn bennaeth arni rhwng 1995 a 2008 ac yn ddiweddar, roedd yn un o’r pump o gyn-fyfyrwyr a chyn-aelodau staff yr adran a a sgrifennodd lythyr at Weinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, Alun Davies, yn mynegi eu pryderon ynghylch fwriad tybiedig y brifysgol i gael gwared ar dair swydd ddarlithio yno.

Yn y diwedd fe benderfynodd Prifysgol Aberystwyth i gael gwared ar ddwy swydd sy’n golygu bod nifer y darlithwyr wedi gostwng o 12 i saith ers 2014.

Mae golwg360 ar ddeall fod un o’r saith sy’n weddill wedi cael cytundeb sy’n para blwyddyn yn unig.

Dywedodd yr Athro Gruffydd Aled Williams wrth golwg360: “Mewn gwirionedd, ers 2014, fe fydd yna ostyngiad o 42% wedi bod yn staff yr adran a phe bai’r un yma sydd wedi cael cytundeb am flwyddyn, pe bai ei swydd o ddim yn cael ei adnewyddu, fe fydd hyn yn ostyngiad o 50% mewn blwyddyn.

“Mae rhywun yn deall, wrth gwrs, ei bod yn gyfnod o argyfwng ariannol ar y brifysgol, ond mae’n amheus iawn nad yw unrhyw adran arall wedi cael, nac yn debyg o gael, gostyngiad fel yna i niferoedd ei staff.”

“Cyfnod trafferthus iawn” i Brifysgol Aberystwyth.

Yn ôl Gruffydd Aled Williams dyw hi “ddim yn gyfrinach” fod yna broblemau “aruthrol o ddrwg” wedi bod gan y Brifysgol yn y gorffennol a bod yr Is-ganghellor presennol, yr Athro Elizabeth Treasure, yn “medi diffygion ei rhagflaenydd”.

Ond er gwaethaf hyn i gyd, mae’n credu ei bod yn “ddyletswydd” ar y brifysgol i ddiogelu’r ddarpariaeth y Gymraeg yno.

“Os na all prifysgolion yng Nghymru feithrin dysg Cymraeg, yna pwy fedr wneud hynny, mewn gwirionedd?”

Angen Cadeiriau newydd

Un arall o broblemau’r Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn ôl Gruffydd Aled Williams, yw nad oes Athro wedi bod yno ers 2015.

“Roeddwn i’n ymddeol fel Athro yn y Gymraeg yn 2008 – naw mlynedd yn ôl – ond bellach does yna’r un Gadair o gwbl yn Adran y Gymraeg ac mae hynny’n wendid difrifol iawn o gymharu â Phrifysgol Bangor lle mae yna bum cadair yn Ysgol y Gymraeg. Mae yna bedair ym Mhrifysgol Caerdydd, dwy yn Abertawe ac un ym Mhirfysgol y Drindod Dewi Sant.

“Mae hyn yn ddangoseg o’r hyn y mae’r Brifysgol yn ei feddwl o’r Gymraeg felly.

“Mae’n gwbl hanfodol bod yna sefydlu cadair neu gadeiriau o fewn yr adran.”

Mewn ymatebiad i bryderon Gruffydd Aled Williams, dywedodd Prifysgol Aberystwyth wrth golwg360:

“Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaeth Celtaidd Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud cyfraniad hynod at ysgolheictod ac ymchwil academaidd ers dros 130 o flynyddoedd.

“Mae’n rhan annatod o’n cenhedaeth ni fel Prifysgol ac rydym yn benderfynol o barhau i gynnig y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel disgyblaethau academaidd yn y dyfodol.”