Achos llofruddiaeth: rheithgor yn ystyried eu dyfarniad

Diweddarwyd  


Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos cyn-filwr sydd wedi’i gyhuddo o dreisio a llofruddio merch ysgol mwy na 40 mlynedd yn ôl.

Honnir bod Stephen Hough wedi tagu Janet Commins, 15, i farwolaeth wrth iddo ymosod arni’n rhywiol yn y Fflint ym mis Ionawr 1976.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Stephen Hough, 58 oed ei arestio ar ôl cydweddiad prawf DNA, o samplau a gafodd eu cymryd o safle’r drosedd.

Ar y pryd fe wnaeth Noel James, 18 oed, bledio’n euog i ddynladdiad a’i garcharu am 12 mlynedd ar ôl dweud iddo gael ei “orfodi” i wneud cyffesiad ffals gan yr heddlu.

Roedd cyn-wraig Stephen Hough, Delyth Sands, wedi dweud wrth y rheithgor bod y diffynnydd wedi cyfaddef lladd rhywun yng ngogledd Cymru pan oedden nhw’n briod ac yn byw yn yr Almaen yn y 1980au tra roedd yn gwasanaethu gyda’r fyddin.

Mae Stephen Hough yn gwadu llofruddiaeth, trais a bwbechni rhwng Ionawr 5 a 12 1976.

Fe fydd y rheithgor yn dychwelyd i’r llys yfory i barhau i ystyried eu dyfarniad.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd