Esinkumo ‘Henry’ Ayabowei (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio tad i ddau o blant y tu allan i glwb nos ym Mangor, wedi’i gadw yn y ddalfa.
Y bore ma, ymddangosodd Kieron Terence Roberts gerbron Llys y Goron Caernarfon trwy gyswllt fideo o ddalfa Altcourse yn Lerpwl.
Bu farw Esinkumo ‘Henry’ Ayabowei, 27 o Langefni, yn yr ysbyty yn Stoke yn dilyn y digwyddiad tu allan i glwb nos Peep ar Ebrill 1.
Bydd Kieron Terence Roberts yn ymddangos gerbron y llys unwaith eto ar Awst 18, pan fydd yn cyflwyno ple.