Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau fod rhywun wedi ceisio cipio plant ym mhentref Llandyrnog ger Dinbych.

Mae swyddogion eisoes wedi apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad rhwng grŵp o blant a char Renault Clio glas prynhawn dydd Sadwrn, Gorffennaf 8.

Roedd pedwar plentyn – 11, 10, 9 a 6 blwydd oed – yn rhan o’r digwyddiad ond ni chafodd unrhyw un niwed.

Yn ôl adroddiadau roedd y cerbyd wedi cael ei weld yn ymddwyn mewn modd amheus yn yr ardal rhwng 3yh a 6yh ddydd Sadwrn.

“Rydym yn dymuno sicrhau’r cyhoedd bod gennym swyddogion yn dilyn sawl trywydd ar hyn o bryd ac rydym yn dal i apelio am dystion efallai oedd yn yr ardal pan ddigwyddodd hyn, ac a welodd ddigwyddiad gyda’r grŵp o blant a’r car Renault Clio glas golau,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Chris Bell.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod V102034 neu ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555111.