Ambiwlans Awyr Cymru
Mae merch 13 oed yn cael triniaeth mewn ysbyty wedi iddi gael ei hachub o hen gaer yn Sir Benfro nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn hen gaer Hubberston ger traeth Gelliswick, Aberdaugleddau tua 7.06yh nos Sul (Gorffennaf 9).

Mae’r heddlu wedi cadarnhau iddi ddioddef anafiadau a’i bod wedi’i chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Bu’r heddlu, y frigâd dân, ambiwlans, ambiwlans awyr a gwylwyr y glannau yn rhan o’r gwaith achub neithiwr.