Elin Maher (Llun o'i chyfrif Twitter)
Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg “tu allan i furiau’r ysgol” sy’n bwysig i ymgyrchydd iaith o Gasnewydd.

Dywedodd Elin Maher y bydd hi’n gobeithio gweld cynllun i annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dysgu’r iaith yn rhan o strategaeth newydd Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Un peth yw creu siaradwyr ond peth arall yw cael y siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

Ychwanegodd fod hynny’n cynnwys creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau ynghyd â sicrhau bod y Gymraeg yn sgil hanfodol wrth recriwtio ar gyfer swyddi.

“Mater o frys”

Elin Maher yw sylfaenydd Menter Casnewydd ac mae hefyd yn ymgyrchydd gyda’r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn ardal Casnewydd.

Dywedodd ei bod am weld cyllid  i gefnogi gweithgareddau Cymraeg ledled Cymru yn rhan o strategaeth y Llywodraeth.

“I ardal fel Casnewydd a’r de ddwyrain lle mae dwysedd siaradwyr [Cymraeg] yn is nag ardaloedd eraill o Gymru – mae hyn yn fater o frys.

“Os na fydd rhyw fath o gynhaliaeth mae’r gwaith sy’n digwydd yn mynd i fynd ar goll am fod toriadau yn effeithio ar gymaint o wasanaethau.

“Yn ein hardal ni byddai hynny’n cael effaith uniongyrchol ar allu swyddogion i hyrwyddo a chreu awyrgylch i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd,” ychwanegodd.