Llys y Goron Caerdydd
Mae athro mosg o Gaerdydd wnaeth gam-drin pedair merch ifanc yn rhywiol wedi cael ei garcharu am 13 blynedd.

Roedd Mohammed Haji Saddique, 81, yn cyffwrdd ei ddisgyblion yn ystod gwersi darllen y Coran ac yn curo plant oedd yn gwneud camgymeriadau.

Penderfynodd rheithgor ym mis Mehefin bod Saddique yn euog o 14 trosedd rhyw yn erbyn plant rhwng 1996 a 2006.

“Roedd y pedwar unigolyn wnaeth gwyno yn ddewr iawn yn y ffordd y gwnaethon nhw oresgyn rhwystrau diwylliannol a phersonol i osod cwynion yn eich erbyn,” meddai’r Barnwr Stephen Hopkins yn Llys y Goron Caerdydd.

“Mae’r treial yma wedi dinoethi ochr dywyllach o’ch personoliaeth. Mi wnaethoch chi gymred mantais o bobol oedd yn ymddiried ynddoch chi.”

Mae’r barnwr hefyd wedi gorchymyn bod  Mohammed Haji Saddique yn cael ei osod ar y rhestr troseddwyr rhyw.