Llythyr Carwyn Jones at Simon Thomas
Aeth o leiaf fis heibio – rhwng Ebrill a Mai eleni – pan nad oedd modd i neb ebostio Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn Gymraeg, a neb wedi sylwi.

“Problem dechnegol” oedd i gyfri pam nad oedd blwch ebost Gweinidogion Cymru yn gallu derbyn unrhyw negeseuon Cymraeg, yn ôl llythyr gan y Prif Weinidog at un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru.

Simon Thomas oedd yr aelod a gododd y broblem gyda’r Llywodraeth, a hynny ar ôl sylwi nad oedd wedi cael ymateb i sawl llythyr yr oedd wedi’u hanfon yn Gymraeg.

“Ddaethon nhw’n ôl a dweud bod problem wedi bod gyda’r holl ebyst Cymraeg i’r Llywodraeth,” meddai Simon Thomas.

Mae golwg360 wedi gweld copi o lythyr y Prif Weinidog, Carwyn Jones at Simon Thomas, yn cyfaddef bod “problem wedi bodoli am gyfnod byr a oedd yn ein hatal rhag derbyn e-byst a anfonwyd at fersiynau Cymraeg y cyfeiriadau e-bost Gweinidogol”.

Neb wedi sylwi

Doedd y Llywodraeth ddim yn ymwybodol o’r broblem nes i Simon Thomas ei chodi ar Fai 17 – dros fis ers iddo anfon llythyr heb gael ymateb ar Ebrill 13.

“Er na allwn fod yn siŵr am faint yn union roedd y broblem wedi bodoli, gallaf gadarnhau nad oes unrhyw broblemau wedi bod gyda’r cyfeiriadau e-bost Cymraeg ers i hyn gael ei gywiro,” meddai Carwyn Jones yn ei lythyr wedyn.

Dyw’r Llywodraeth ddim chwaith yn gwybod faint o bobol a anfonodd ebyst yn ystod y cyfnod hwn heb gael ymateb.

“Y diwrnod wnaethon ni godi hwn, fe wnaethon nhw godi fe, so mae o leiaf pedair wythnos wedi bod. A oedd yna gyfnod cyn hynny hyd yn oed? Dyna’r cwestiwn,” meddai Simon Thomas.

“Mae yna fis cyfan lle nad oedd modd cysylltu yn Gymraeg gyda’r Llywodraeth, a neb wedi sylwi.”