Mae deg o bobol wedi’u harestio yng Nghasnewydd ar amheuaeth o amryw o droseddau’n ymwneud â chyffuriau.

Cafodd pedwar cyrch eu cynnal gan 54 o blismyn Heddlu Gwent yn ardal Pilgwenlli brynhawn ddydd Mawrth (Gorffennaf 4) yn dilyn gwybodaeth am gyffuriau Dosbarth A a ddaeth i law’r heddlu gan y cyhoedd.

Mae’r deg o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o ddosbarthu cyffuriau Dosbarth A.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent bod y cyrchoedd yn arwydd o’u “dull parhaus a diflino o dargedu’r unigolion a’r grwpiau hynny sydd ynghlwm wrth ddosbarthu cyffuriau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol cysylltiedig yn ein cymunedau a’u dwyn i gyfri”.

Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu Gwent, Jeff Cuthbert ei fod yn “cymeradwyo” Heddlu Gwent am eu hymateb.

“Gobeithio bod y weithred hon yn dangos na fyddwn ni’n goddef torcyfraith fel hyn,” meddai wedyn.

“Ar yr un pryd, gobeithio ei bod yn dangos i bobol leol ein bod ni ar yr un ochr â nhw pan ddaw i fyw’n heddychlon ac mewn cymunedau sefydlog sy’n cadw at y gyfraith.”