Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Mae ymrwymiad yn cael ei drafod ac ar waith sy’n golygu na fydd yn rhaid i ferched o Ogledd Iwerddon sy’n dod i Gymru dalu am erthyliad.

Fe fyddan nhw’n medru derbyn y driniaeth fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd a daw hyn wedi i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, alw am ymrwymiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i’r mater.

“Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn darparu mynediad am ddim i wasanaethau erthylu i ferched o Ogledd Iwerddon ac rwy’n bles i allu sicrhau ymrwymiad gan y Prif Weinidog am y mater hwn,” meddai Leanne Wood yn ei datganiad.

“Mae’n fater o gyfiawnder o ran triniaeth. Does gan ferched yng Ngogledd Iwerddon ddim o’r mynediad at erthyliad cyfreithlon a diogel yno. Dydyn nhw ddim yn medru penderfynu beth sy’n digwydd i’w cyrff. Dyw hynny ddim yn iawn,” meddai.

“Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r symudiad ac rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cam pwysig hwn.”

Ar hyn o bryd mae erthyliadau yn gyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon ond o dan amodau caeth, ac mae llawer o ferched yn teithio i Gymru, Lloegr a’r Alban am driniaethau.

Mewn ymateb i gwestiwn Leanne Wood, dywedodd Carwyn Jones yn y Senedd – “rydym am wneud yn siŵr fod yr un gwasanaeth ar gynnig yng Nghymru ag sydd yn Lloegr a’r Alban… Mae’r materion hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond gallaf sicrhau arweinydd Plaid Cymru ein bod yn ceisio sicrhau fod Cymru, Lloegr a’r Alban yn cynnig yr un gwasanaeth.”

‘Cam pwysig’

Mae’r mudiad hawliau dynol Amnest Rhyngwladol wedi croesawu’r cyhoeddiad gan alw ar Gynulliad Gogledd Iwerddon i roi mynediad llawn i ferched sydd eisiau erthyliadau.

Wrth groesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru dywedodd Patrick Corrigan ar ran Amnest Rhyngwladol Gogledd Iwerddon – “mae hwn yn gam pwysig arall tuag at ddod â thrafferthion merched o Ogledd Iwerddon i ben wrth iddyn nhw barhau i gael eu hamddifadu rhag yr hawl am ofal iechyd sy’n cael ei gymryd yn ganiataol gan weddill y Deyrnas Unedig.”

“Er gwaetha’r symudiadau cadarnhaol hyn yn Llundain, Caeredin a Chaerdydd, mae menywod a merched o Ogledd Iwerddon yn dal i wynebu beichiau ariannol ac emosiynol o orfod teithio am ofal iechyd a ddylai fod ar gael gartref,” meddai.

Dywedodd fod angen i Gynulliad Gogledd Iwerddon ddeddfu ar fynediad at erthyliadau, ac os na fyddan nhw’n llwyddo dywedodd fod angen i “San Steffan weithredu”.