Mae merch saith oed wedi’i chludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad traffig yn ardal Caerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 1.30yh ddydd Sadwrn (Gorffennaf 2) yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng car â cherddwr ar Heol Lansbury, Caerffili.

Cafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty gan ambiwlans awyr ac mae lle i gredu bod ei hanafiadau yn rhai sy’n ‘bygwth bywyd’ neu’n rhai ‘newid bywyd’.

Mae Heddlu Gwent yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 288 o 2/7/17.