Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyflwyno ei fwriad i roi’r cyfle i bobol a sefydliadau ledled Cymru gynnig eu syniadau ynglŷn â threthi newydd posib i Gymru heddiw.

Bydd Mark Drakeford yn son am ei fwriad i brofi’r pwerau newydd hynny a roddwyd i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Cymru 2014, a bydd yn cyfeirio at rai o’r syniadau am drethi sydd eisoes wedi’u cynnig gan Sefydliad Bevan – ynghylch twristiaeth, deunyddiau pecynnu cludfwyd ac ariannu gofal cymdeithasol.

Bydd hefyd yn awgrymu y byddai trethi’n medru cael eu defnyddio i newid ymddygiad neu i geisio lleihau gweithgareddau sy’n effeithio’n negyddol ar gymdeithas.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw, fe fydd yn dweud: “Ymhen naw mis, bydd Llywodraeth Cymru yn codi ei threthi ei hunan, a hynny am y tro cyntaf ers bron 800 mlynedd yng Nghymru.”

“Mae hyn yn nodi perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, trethdalwyr Cymru a gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.”

Fe fydd hefyd yn pwysleisio ei fod yn “awyddus” i ystyried pob syniad a fydd yn dod i law – a hynny gyda “phob plaid wleidyddol, gyda’r cyhoedd a chyda busnesau a sefydliadau ledled Cymru.”

“Rwy’n annog pawb i gymryd rhan ac i rannu eu syniadau gyda ni er mwyn ein helpu i lunio trethi Cymru yn y dyfodol.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd rhestr fer o syniadau ar gyfer trethi newydd yn cael eu hystyried yn yr Hydref.