Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae’r cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP yn “annerbyniol” yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mewn datganiad mae Carwyn Jones yn tynnu sylw at addewid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “gryfhau’r cysylltiadau” rhwng cenhedloedd Prydain ond yn mynnu mai “gwanhau’r Deyrnas Unedig ymhellach” fydd y cytundeb mewn gwirionedd.

Mae’n cyfeirio at yr adroddiadau fod setliad ariannol o £1 biliwn am gael ei gynnig i Ogledd Iwerddon fel rhan o’r cytundeb.

Dywedodd ei fod wedi cysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i “nodi fy marn ar y ddêl annerbyniol – fel llais Cymru wrth fwrdd y Cabinet, mae ganddo ddyletswydd i frwydro yn erbyn y ddêl yma a sicrhau cyllid ychwanegol i’n gwlad.”

‘Ansefydlogi’

Mae’r Prif Weinidog yn ymhelaethu gan ddweud – “mae’n warthus fod y Prif Weinidog [Theresa May] yn credu ei bod hi’n medru diogelu ei dyfodol gwleidyddol trwy ennill ffafr Gogledd Iwerddon ag arian – gan anwybyddu anghenion gweddill y Deyrnas Unedig yn llwyr.”

“Er hynny nid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig sydd â chwestiynau i’w hateb. Mae’n ymddangos bod y DUP wedi galluogi’r Torïaid i ddeddfu fel y mynnan nhw ar faterion Brexit. Gall hyn arwain at bwerau ac adnoddau yn cael eu cipio oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig,” rhybuddiodd.

“Ateb dros dro yw hyn, fydd yn ansefydlogi ac fe fydd gyda goblygiadau pellgyrhaeddol,” meddai.

Alun Cairns – ‘ymyrraeth gadarnhaol’

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, mae’r cytundeb gyda’r DUP yn dangos fod modd “gweithio gyda’n gilydd er budd y Deyrnas Unedig.”

Mewn ymateb i sylwadau Carwyn Jones dywedodd – “ers degawdau mae pobol wedi cwyno am dangyllido i Gymru, ond fe wnes i ddatrys hynny ym mis Rhagfyr gyda chyllid gwaelodol wedi’i gytuno gyda Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae Cymru yn cael £120 am bob £100 sy’n cael ei wario yn Lloegr,” meddai.

Wrth gyfeirio at gyllid newydd i Ogledd Iwerddon dywedodd eu bod yn “wynebu amgylchiadau unigryw a heriau penodol.”

Dywedodd fod “ymyrraeth gadarnhaol” Llywodraeth y DU yn debyg i brosiectau economaidd eraill “er enghraifft drwy fargeinion dinesig  i Abertawe a Chaerdydd,” meddai.

“Rydym yn gweithio’n galed i gyflawni cytundeb twf i ogledd Cymru a byddaf yn sicrhau bod Cymru’n parhau i dderbyn buddsoddiad uniongyrchol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy gefnogi twf economaidd yn y dyfodol,” ychwanegodd.

Galw am ‘ran deg’ i Gymru

Mewn ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts – “rhaid i unrhyw ymrwymiadau i Ogledd Iwerddon gael eu cynnig i Gymru.”

“Os yw’r honiadau fod y DUP wedi llwyddo i ennill ymrwymiad o £1 biliwn o wariant cyhoeddus ychwanegol, byddai gwariant cyfatebol yng Nghymru yn werth o gwmpas £1.7 biliwn – hwb sylweddol i’n heconomi,” meddai.

Dywedodd y bydd Aelodau Seneddol Plaid Cymru “yn sicrhau fod llais Cymru yn cael ei chlywed yn glir yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn mynnu fod Cymru yn cael ei rhan deg o fuddsoddiad fel y gallwn uwchraddio ein ffyrdd a’n rheilffyrdd, cynyddu cyflogau i’n gweithwyr a sicrhau safonau byw uwch i’n dinasyddion.”