Anna Jura, Llun: Trwy law Heddlu'r De
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth amheus dynes yn Rhondda Cynon Taf.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Anna Jura, 44 mewn eiddo yn Stryd Rheola ym mhentref Penrhiwceibr ger Aberpennar ar 24 Mehefin.

Dyw achos y farwolaeth ddim yn wybyddus ar hyn o bryd.

Cafodd dyn 72 oed ei arestio mewn cysylltiad a’i marwolaeth ac mae wedi’i ryddhau ar fechniaeth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu efo nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1700239971.