Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth wrth ddod o hyd i ffatri ganabis yng nghanol tref Rhuthun.

Fe ddaeth cadarnhad gan y llu iddyn nhw ddefnyddio gwarant i gael mynediad i siop yn y dref ddydd Gwener, a dod o hyd i nifer fawr o blanhigion canabis yno.

“Mae’r darganfyddiad hwn yn golygu ein bod llai o gyffuriau’n mynd i fod ar gael ar y stryd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Mi hoffen ni ddiolch i’r unigolion hynny ddaeth i gysylltiad â ni efo’r wybodaeth.”

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.