Leseley Griffiths AC
Mae rhai o gwmnïau bwyd a diod Cymru wedi’i throi hi am ddinas Milan yn yr Eidal i chwilio am gyfleoedd allforio newydd.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi proffil Cymru trwy’r byd fel lle da i wneud busnes ynddo, mae’n cefnogi naw o gynhyrchwyr i ymweld â Milan o Fehefin 24-28.

Penderfynwyd trefnu’r daith ar ôl y diddordeb a ddangoswyd gan Eidalwyr yn rhai o’r cynhyrchion hyn yn sioe BlasCymru Llywodraeth Cymru, lle dangoswyd bwyd a diod o Gymru i brynwyr o bedwar ban.

“Mae bwyd a diod yn sector y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth iddi a dyna pam ein bod wedi gosod targed o 30% o dwf yn y sector erbyn 2020,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

“Yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae hi’n bwysicach nawr nag erioed ein bod yn hyrwyddo’r gorau sydd gan y diwydiant bwyd a diod i’w gynnig a phara i greu argraff mewn marchnadoedd tramor.”

Pwy sydd wedi mynd i Milan?

Amrywiaeth o gwmnïau, yn cynnwys cynhyrchwyr grawnfwydydd, cyffeithiau, te a bwydydd di-alergeddau a chwmnïau bragu.

Yr Eidal yw un o’r marchnadoedd mwyaf yn Ewrop am gynnyrch heb glwten a bydd Samosa Co a’r bragwyr cwrw crefft Evan-Evans yn ymuno â’r daith fasnach i hyrwyddo’u hopsiynau di-glwten.

Mae’r farchnad organig hefyd yn tyfu yn yr Eidal ac mae’r cwmni o Sir Benfro, Daioni Organic, yn mynd i Milan i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r twf hwnnw’n eu cynnig.

Bydd Deeside Cereals yn ymuno â nhw. Mae’r cwmni eisoes wedi allforio ychydig i’r Eidal trwy chwaer gwmni iddo yn Ffrainc, ond y mae nawr yn awyddus i feithrin ei berthynas ei hun â phrynwyr a dosbarthwyr.