Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn archwilio diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru yn sgil trychineb tân Tŵr Grenfell lle lladdwyd 79 o bobol.

Yn ystod yr ymchwiliad fis nesaf, bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystyried rheolau a chanllawiau diogelwch sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dydd Mawrth dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, bod dim un o dyrrau fflatiau Cymru – 36 i gyd – gyda gorchuddion plastig tebyg i’r rhai oedd yn gorchuddio Tŵr Grenfell.

Mae gorchuddion plastig fflamadwy wedi cael eu darganfod ar o leiaf tri bloc tŵr yn y Deyrnas Unedig ers y trychineb, ac mae pryderon fod tua 600 o flociau tŵr yn Lloegr â’r cladin peryglus yma.

“Atal trychineb yng Nghymru”

“Arswyd i bawb oedd gwylio’r hyn ddigwyddodd yn Grenfell Tower yr wythnos diwethaf, ac rwyf am gael sicrwydd bod pob mesur diogelu angenrheidiol ar waith i atal trychineb o’r fath yng Nghymru,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, John Griffiths.

“Rydym yn gobeithio clywed gan y rhai sydd â chyfrifoldeb ym myd llywodraeth leol, yn y cymdeithasau tai, ac yn y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru.  Yna, byddwn yn codi unrhyw faterion gyda Llywodraeth Cymru.”