Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i achos llofrudddiaeth dyn 19 oed yng Nghei Connah ar Fai 29 eleni, wedi arestio tri o bobol fore Iau.

Fe ddaeth yr arestiadau gan Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn cyfres o warantau yn ardal Glannay Dyfrdwy.

Mae dyn 48 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth; mae dynes 38 oed wedi’i dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac o gyflenwi cyffuriau; ac mae dynes arall, 42 oed, wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r tri yn bobol leol.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i ffonio’r rhif 101, neu i gysylltu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.