Mae angen mwy o “sicrwydd” ynglŷn â beth ddaw yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Yn bresennol  mae Cymru yn derbyn  £2 biliwn gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn datblygu rhai o ardaloedd tlotaf y wlad ond mi fydd y cyllid yma yn dod i ben yn dilyn Brexit.

Mewn adroddiad newydd mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau ystyried cynllun i fynd i’r afael â cholled y cyllid yma.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi sôn am ei “siom” fod sefydliadau heb gynllunio strategaethau ynglŷn â sut i ymdopi â’r “heriau economaidd” fydd yn dod trwy adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Angen sicrwydd”

“Yn y tymor byr, mae angen sicrwydd o ran beth a geir yn lle’r £2 biliwn a roddir ar hyn o bryd i gefnogi datblygiad economaidd rhai o’n hardaloedd tlotaf,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, David Rees.

“Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni edrych o’r newydd ar y ffordd y mae ein gwlad yn ymdrin ag anghydraddoldeb a gwahaniaethau o ran perfformiad economaidd, a rhaid cynllunio yn awr ar ei gyfer.”