Plismon tu allan i eiddo yng Nghaerdydd sydd wedi'i archwilio yn dilyn yr ymosodiad ger mosg yn Finsbury Park, Llundain (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Mae’r heddlu Metropolitan sy’n ymchwilio i ymosodiad ger mosg yn Llundain wedi dweud eu bod yn archwilio eiddo yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd.

Mae’r dyn 47 oed a gafodd ei arestio wedi’r digwyddiad wedi cael ei adnabod fel tad i bedwar o blant, Darren Osborne, o Gaerdydd.

Mae’n cael ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth a cheisio llofruddio, ac hefyd ar amheuaeth o gynllwynio, paratoi a gweithredu gweithred o frawychiaeth.

Mae’n debyg nad oedd yn hysbys i’r gwasanaethau diogelwch.

Mae Heddlu De Cymru ac Uned Gwrth-frawychiaeth Cymru yn cynorthwyo’r Heddlu Metropolitan gyda’r ymchwiliad i’r ymosodiad brawychol.

Bu farw dyn a chafodd 8 o bobl eu cludo i’r ysbyty ar ôl i fan gael ei gyrru’n fwriadol at gerddwyr ger mosg yn Finsbury Park yng ngogledd Llundain yn gynnar y bore ’ma.

Yn ôl adroddiadau cafodd  y fan ei llogi gan gwmni Pontyclun Van Hire ym Mhont-y-clun ger Caerdydd. Mewn datganiad dywedodd y cwmni eu bod yn cydweithredu’n llawn gydag ymchwiliad yr heddlu.

“Pryderus”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Mae’n hynod o bryderus i ddarganfod y cysylltiad rhwng y digwyddiadau ofnadwy yn Finsbury Park a de Cymru, yn enwedig o ystyried y cysylltiad cryf sy’n bodoli rhwng ein cymunedau yma.

“Rwy’n hyderus na fydd y seiliau cadarn sydd eisoes yn bodoli yn cael eu heffeithio gan y digwyddiad trasig yma.”

“Sicrhau cymunedau”

Ychwanegodd y Dirprwy Brif-Gwnstabl Jon Drake o Heddlu’r De y byddan nhw’n cynyddu presenoldeb yr heddlu ar y strydoedd ac yn enwedig o gwmpas mosgiau.

“Mae ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan yr ymosodiad yn Finsbury Park yn Llundain.

“Oherwydd natur y digwyddiad, fe fydd swyddogion ychwanegol ar batrôl er mwyn sicrhau cymunedau, yn enwedig y rhai sy’n dilyn Ramadan.

“Rwy’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu unrhyw beth sy’n achosi pryder neu amheuaeth, i ffonio’r heddlu yn gyfrinachol ar 0800 789 321.”