Mae pedwar person gafodd eu harestio yn dilyn marwolaeth merch 15 oed o Gaerffili wedi’u rhyddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal oddi ar ffordd Mynydd Caerffili yn ystod oriau mân bore dydd Sul (Mehefin 18) yn dilyn pryderon am iechyd merch 15  oed.

Wedi i’r gwasanaethau brys gyrraedd, bu farw Shauna Davies, ac mae’r ymchwiliad i’w marwolaeth yn parhau.

Cafodd y pedwar person eu harestio yn wreiddiol ar amheuaeth o fod a chyflenwad o gyffuriau, ond maen nhw bellach wedi’u rhyddau.

‘Camau cyntaf’

“Ar hyn o bryd mae’r ymholiadau yn parhau gyda’r ymchwiliad i farwolaeth y ferch ifanc hon yn ei gamau cyntaf,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Nicola Brain o Heddlu Gwent.

“Yn ystod ein gwaith byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw sylweddau wedi cyfrannu at y digwyddiad hwn; mae hyn yn un o’n llinellau ymholi ar hyn o bryd.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 16 18/06/17.