Saleem Kidwai, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru (Llun: LinkedIn)
Yn sgil yr ymosodiad diweddaraf ar fosg yn Finsbury Park, Llundain, yn gynnar bore ma, mae pryder bod cynnydd yn nifer yr achosion o droseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid wedi bod yn dilyn ymosodiadau Manceinion a London Bridge.

Wrth i Gyngor Mwslimiaid Prydain alw am ragor o fesurau diogelwch tu allan i fosgiau, mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru wedi mynegi pryder nad yw graddfa’r broblem yn hysbys.

Yn ôl Saleem Kidwai, mae cymuned Fwslimaidd Cymru yn teimlo fod “Islamaffobia ar gynnydd” ond maen nhw hefyd yn derbyn fod maint y broblem heb ei lwyr adlewyrchu gan fod pobol yn ofni adrodd achosion o ragfarn i’r heddlu.

“Er bod nifer o achosion o ragfarn ar gynnydd, nid yw’r ystadegau yn llwyr adlewyrchu ehangder y broblem,” meddai Saleem Kidwai wrth golwg360. “Mae’r ymosodiadau mor bersonol nid yw pobol yn teimlo fel bod e werth eu hadrodd.”

“Rydym yn ceisio annog ein cymuned i wneud yn siŵr eu bod nhw’n adrodd achosion o Islamaffobia – nid o reidrwydd er mwyn dal y troseddwyr – ond i wneud yn siŵr bod yr ystadegau yn gywir.”

“Agored i niwed”

Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru wedi gorfod ymateb i’r cynnydd trwy alw ar yr heddlu i gynyddu nifer y swyddogion ar batrôl a thrwy ddatgan canllawiau diogelwch i aelodau’r gymuned gan annog pobol i beidio crwydro’r brifddinas ar eu pen eu hunain.

Yn ôl Saleem Kidwai mae’n anodd “rheoli a rhagweld yr achosion” ac mae’n pryderu am fenywod a phlant – “targedau sydd yn agored i niwed.”

“Mae [achosion o Islamaffobia yn cynyddu] pob tro ar ôl ymosodiadau [gan eithafwyr Islamaidd], ond yn ddiweddar mae ymosodiadau brawychol wedi bod yn digwydd yn eithaf aml.”

“Y lleiafrif”

Er bod rhagfarn ar gynnydd mae Saleem Kidwali wedi ei galonogi gan ymateb pobol tu allan i’r gymuned Fwslimaidd sydd yn dangos mai’r “lleiafrif” sydd yn dangos y fath “gasineb.”

“Mae’n anffodus ond mae’n rhaid bod yn wyliadwrus,” meddai. “Dydyn ni methu gadael iddyn nhw ennill. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ac ymdrechu gyda’n gilydd, a gwneud yn siŵr fod bywyd yn mynd yn ei flaen. Fel arall nhw fydd yn ennill, a dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw ennill.”

“Rydym wedi cael llawer o gymorth gan y cymunedau Iddewig, Cristnogol a chymunedau crefyddol  eraill. Wrth sefyll ochr yn ochr â ni maen nhw’n ein calonogi ac yn ein hatgoffa mai’r lleiafrif nid y mwyafrif sydd yn dangos casineb.”

Cysylltiad â Chymru… yn fwy erchyll”

Wrth ymateb i’r digwyddiad, cyfeiriodd Cyngor Mwslimaidd Cymru at y tueddiad i feio “unigolion” yn hytrach na grwpiau am weithredoedd treisgar.

“Roedd yr ymosodiad ar addolwyr Mwslimaidd ddydd Llun yn erchyll. Mae’r posibilrwydd fod yna gysylltiad rhwng yr ymosodwr â Chymru  yn gwneud yr holl beth hyd yn oed yn fwy erchyll. Rydym yn gweddïo dros y dioddefwyr.

“Yn anffodus bydd trais Islamaffobaidd yn parhau’n gyffredin, os parhawn i feio pob Mwslim am weithredoedd unigolion. Mae cyfrifoldeb ar wleidyddion â’r cyfryngau i ymdrin â’r mater yn ofalus.”