Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio dyn 23 oed yn dilyn ffrwgwd ym Mae Colwyn.
Cafodd yr heddlu eu galw am 2.30 fore Sadwrn.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ag anafiadau difrifol.
Mae e bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty yn Stoke ar ôl cael ei drosglwyddo.