O achos “pryder difrifol” dros nifer yr eogiaid yng Nghymru, mae apêl yn gofyn i bysgotwyr ryddhau’r holl eogiaid maen nhw’n eu bachu eleni.

Daw’r alwad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a hynny er mwyn ceisio gwarchod stociau pysgod am fod y nifer yn isel iawn.

“Mae’r eog yn rhan bwysig o’n hamgylchedd a’n diwylliant yng Nghymru, felly mae’n hollbwysig inni wneud popeth o fewn ein gallu i geisio gwarchod cymaint o bysgod ag y gallwn,” meddai Dave Mee, uwch gynghorydd pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Fe hoffem weld pysgotwyr a rhwydwyr yn rhyddhau’n wirfoddol bob eog a mwy o sewin er mwyn gwneud yn siŵr y bydd mwy o bysgod yn goroesi i ymfudo i fyny’r afon i silio a chynhyrchu mwy o bysgod ifanc, gan roi hwb i’r stociau.”

Stoc ‘mewn perygl’

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn asesu stociau pysgod bob blwyddyn mewn 23 o afonydd lle mae eogiaid a 33 lle mae sewin.

Yn ôl yr asesiadau ar gyfer 2016 mae bod pob un ond dwy o’r afonydd lle mae eogiaid (sef Hafren ac Wysg) yn methu â chyrraedd eu targed ac mae’r eogiaid mewn 21 o afonydd naill ai ‘mewn perygl’ neu ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’.

Ar gyfer sewin, mae’r sefyllfa yn wael yn 16 o blith y 33 afon gafodd eu hasesu, gydag ychydig iawn o bysgod yn silio.

Yn ôl  CNC mae nifer yr eogiaid sy’n byw yn wyllt yn yr afonydd ar eu lefelau isaf erioed ac mae angen gofal wrth eu rhyddhau.

Y ffordd orau o wneud hyn yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw eu rhyddhau i’r afon yn gyflym a’u cadw mewn dŵr hyd nes iddyn nhw gael eu rhyddhau.

“Arwyddion addawol”

“Er bod lefel y stociau’n parhau i beri pryder, mae rhai o afonydd Cymru yn dangos arwyddion addawol,” meddai Peter Gough, prif ymgynghorydd pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Gwelwyd cynnydd calonogol yn nifer yr eogiaid yn Afon Gwy yn 2015 a 2016 ac rydym yn rhagweld y bydd yr afon yn symud o’r categori ‘mewn perygl’ erbyn 2020 i’r categori ‘heb fod mewn perygl yn ôl pob tebyg’.

“Credwn mai cyfuniad o arferion ‘dal a rhyddhau’ cynharach a ffyrdd eraill o reoli pysgota sydd wrth wraidd y canlyniad hwn.

“Mae’n werth sôn am Afon Ogwr hefyd, gyda Chymdeithas Bysgota Ogwr wedi cyflwyno eu rheolau eu hunain er mwyn sicrhau bod 100% o’r eogiaid yn cael eu rhyddhau.”