Janice Griffiths (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau ei fod yn cynnal ymchwiliad i achos o lofruddiaeth wrth iddyn nhw gadarnhau fod dynes 59 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ddydd Llun (Mehefin 12).

Digwyddodd yr ymosodiad ar Janice Griffith yn ardal Ffynnon Taf yn Rhondda Cynon Taf.

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ac yn parhau mewn uned ddiogel iechyd meddwl.

“Mae hwn yn adeg hynod drist i deulu Janice ac i gymuned Ffynnon Taf  lle’r oedd gan Janice nifer o ffrindiau,” meddai’r Ditectif Prif Arolygwyr, Ceri Hughes.

“Hoffwn ddiolch i dystion wnaeth ymyrryd a gwneud popeth o fewn eu gallu, ac i’r nifer o staff meddygol wnaeth weithio’n ddiflino i geisio achub Janice.”