Ivor Gifford Llun: Heddlu Gwent/PA
Mae dyn 92 oed o Abertyleri, Blaenau Gwent, wedi cael ei garcharu am 18 mis wedi iddo gael ei ddal yn anfon negeseuon o natur rywiol at ferched o dan oed.

Roedd Ivor Gifford wedi anfon negeseuon anweddus gan gredu ei fod yn eu hanfon at ferch 11 oed a merch 12 oed – ond roedd wedi’u hanfon at gyfrifon ffug a gafodd eu sefydlu gan grŵp sydd yn ceisio dal pedoffiliaid.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ei fod wedi ceisio cwrdd â merch 11 oed am ryw.

Cafodd ei ddal gan y grŵp The Hunted One yn Llanhiledd, Blaenau Gwent, lle’r oedd wedi trefnu cwrdd â’r ferch 11 oed a chafodd tystiolaeth o’r sgyrsiau eu trosglwyddo i’r heddlu.

Gwnaeth y rheithgor ei farnu’n euog o ddau gyhuddiad o geisio cymell plentyn dan 13 i gyflawni gweithred rywiol ac o geisio cwrdd â phlentyn wedi iddo anfon negeseuon o natur rywiol.

“Meddyliol iach”

“Rydych chi’n 92 blwydd oed,” meddai’r Barnwr Daniel Williams. “Ond rydych chi’n feddyliol iach ac yn feddyliol yn medru cyfathrebu â merched ifanc.

“Roeddech ar y rhyngrwyd yn chwilio am ferched ifanc ac yn chwilio am ferched ifanc ar gyfer cyfathrach rywiol.”