Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae dau o aelodau seneddol Llafur yng Nghymru fu’n beirniadu Jeremy Corbyn yn y gorffennol bellach yn dweud eu bod nhw’n ei gefnogi.

Mae Wayne David a Stephen Kinnock yn galw ar y blaid i uno y tu ôl i’w harweinydd wrth iddo fynnu y gall ffurfio llywodraeth.

Er bod 56 yn llai o seddi gan Lafur na’r Ceidwadwyr, fe lwyddon nhw i ennill tir a sicrhau nad oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif yn San Steffan erbyn hyn.

Dywedodd Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David ei fod yn “barod i gefnogi Jeremy Corbyn”, tra bod Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock yn dweud y byddai’n “fraint” cael bod ar y meinciau blaen.

Stephen Kinnock

Ymddiswyddodd Stephen Kinnock o’i rôl fel ymgynghorydd i Angela Eagle, oedd yn llefarydd busnes ar y pryd, gan gyhuddo perfformiad Jeremy Corbyn yn yr ymgyrch i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement: “Mae’r etholwyr wedi dweud wrthym yn glir iawn eu bod nhw am gael Plaid Lafur yn y Senedd sy’n sicrhau bod y llywodraeth yn atebol – fe gawson ni orchymyn i gychwyn.

“Dw i’n ysu i wneud hynny ac os yw Jeremy yn credu y gallwn i wneud hynny o’r meinciau blaen yna, yn sicr, byddai’n fraint cael gwneud hynny.”

Wayne David

Ymddiswyddodd Wayne David o’r meinciau blaen fis Mehefin y llynedd, gan feirniadu gallu Jeremy Corbyn fel arweinydd.

Ond fe ddychwelodd i’r cabinet cysgodol ym mis Hydref, yn gyfrifol am amddiffyn.

Dywedodd ei fod e wedi cael ei “ryfeddu” gan allu Jeremy Corbyn i sicrhau cymaint o gefnogaeth cyn yr etholiad cyffredinol, a bod yr etholiad cyffredinol wedi dangos “Jeremy Corbyn gwahanol”.

“Roedd yn rhyfeddol sut y bu iddo ysgogi pobol a sicrhau cefnogaeth y wlad, yn enwedig pobol ifanc.”

Daw sylwadau’r ddau ar ôl i Owen Smith, oedd wedi herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth, gyfaddef ddydd Gwener ei fod e’n “anghywir” am yr arweinydd.