Yr Athro Roger Scully
Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yn dathlu ar ôl cipio tair o seddi’r Ceidwadwyr yng Nghymru.

Fe lwyddodd Llafur i gipio’r Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Gogledd Caerdydd oddi ar y Torïaid.

“Mae yna ganlyniad ffantastig i’r Blaid Lafur Gymreig,” meddai’r Athro Roger Scully sy’n arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru.

“Mis yn ôl roedden ni yn credu y bydden nhw efallai yn wynebu colledion difrifol, ond mewn gwirionedd maen nhw wedi ennill tir yng Nghymru ac mae yn edrych fel eu bod am gael eu cyfran uchaf o’r bleidlais yng Nghymru ers 1997.

“Mae hynny yn hollol syfrdanol, mae hi yn noson hynod dda i’r Blaid Lafur Gymreig.

“Rydw i’n credu ei bod yn noson siomedig iawn i’r Ceidwadwyr er mai dyma siâr fwya’r Ceidwadwyr o’r bleidlais yng Nghymru ers o leiaf 1935… mae’n bosib mai dyma siâr uchaf y Ceidwadwyr o bleidleisiau ers cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond maen nhw wedi colli seddi.”