Bydd swyddogion Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol ar gyfer pedair etholaeth y brifddinas yn Gymraeg yn gyntaf.

Mae’r penderfyniad yn dod yn dilyn ffrae dros gyhoeddi canlyniadau etholiadau lleol ar ôl i’r Cyngor benderfynu ar y funud olaf i newid y drefn arferol a chyhoeddi’n Saesneg yn gyntaf.

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith, mae Swyddog Canlyniadau’r Cyngor yn dweud eu bod wedi ail-ystyried ar ôl derbyn “adborth o sawl ffynhonnell”.

Roedd pedwar swyddog Cyngor Caerdydd wedi gwrthod cyhoeddi’r canlyniadau adeg etholiad lleol mis Mai yn dilyn y penderfyniad i’w darllen yn Saesneg yn gyntaf.

Dim penderfyniad parhaol

Dywedodd y swyddog ei bod wedi bwriadu cyhoeddi yn Saesneg yn gyntaf eto y tro hwn, er yn y llythyr at Gell Caerdydd o Gymdeithas yr Iaith, dywedodd:

“Serch hynny, ar ôl ystyried adborth gan sawl ffynhonnell, ac er bod gwahaniaethau mewn barn ymysg ymgeiswyr ac asiantau hyd yn oed, rwy’n bwriadu cyhoeddi canlyniadau’r etholiadau’n Gymraeg gyda’r Saesneg yn ei dilyn.”

Ond rhybuddiodd y gallai hynny newid ac y byddai’n ystyried trefn iaith cyhoeddi canlyniadau etholiadau’r dyfodol.

“Eto, ni ddylid ystyried hynny’n gynsail oherwydd byddaf yn myfyrio ar y ffordd y mae Datganiadau o’r Canlyniadau yn cael eu derbyn ac ar unrhyw adborth ym mhob achos a byddaf yn cynnwys hynny yn y broses o gynllunio’r etholiad nesaf,” meddai.