Mark Isherwood
Mae Aelod Cynulliad wedi cyhuddo Cyngor Sir y Fflint o fwlio ei wraig tra’r oedd hi yn gynghorydd sir yno.

Ond mae Arweinydd y cyngor yn mynnu fod yr honiadau yn “annheg”.

Dywedodd Mark Isherwood, AC dros y gogledd, fod Prif Weithredwr y Cyngor a’r Swyddog Etholiad wedi anfon e-bost “bygythiol” at ei wraig, Hillary Isherwood, yn dweud wrthi am dynnu rhai sylwadau oddi ar ei thaflenni ymgyrchu yn ystod yr etholiadau lleol.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad fe gafodd ei wraig ei bwlio am ei bod yn ddynes yn ystod ei chyfnod yn gynghorydd am 13 mlynedd.

Ond mae Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton, wedi dweud wrth golwg360 bod sylwadau Mark Isherwood yn hollol “ddi-sail ac annheg”.

“Dylai Mark Isherwood ymddiheuro”

Dywedodd Aaron Shotton nad oes yna ddiwylliant gwraig-gasaol [misogynistic] o fewn Cyngor Sir y Fflint.

“Dw i’n pryderu dros yr honiadau y mae Mark Isherwood wedi eu gwneud ynghylch annibyniaeth y Swyddog Etholiad a’r Prif Weithredwr,” meddai Aaron Shotton.

“Dw i’n ymwybodol bod y Swyddog Etholiad, fel mae’n delio â llawer o gwynion yn ystod etholiadau, wedi mynd at y Cynghorydd Isherwood ynghylch honiadau anwir a gofynnwyd iddi edrych ar ei thaflenni.

“Wrth wraidd hyn y mae cynghorydd Ceidwadol wedi colli ei sedd i Lafur ac mae’n warthus bod Aelod Cynulliad yn codi cwestiynau yn gyhoeddus ynghylch y Prif Weithredwr a’r Swyddog Etholiad.

“Dylai Mark Isherwood ymddiheuro.”

‘Bwlio’ ar gyfryngau cymdeithasol

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Torïaidd, fe wnaeth y Prif Weithredwr a’r Swyddog Etholiad ymyrryd yn y broses ddemocrataidd drwy gysylltu â’i wraig ynghylch materion gwleidyddol.

“Fe wnaeth hyn a llawer mwy ei gwneud yn sâl, mae’n dioddef o ymosodiadau gor-bryder a dydy hi ddim mwyach yn gallu ymladd yn ôl,” meddai Mark Isherwood yn y Senedd yr wythnos hon.

Yn Siambr y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mark Isherwood y byddai ei Bapur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar Arweinwyr cynghorau sir i sicrhau nad yw bwlio yn digwydd.