Gobeithio y bydd pobol Cymru yn heidio i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw ar ddiwrnod Etholiad Cyffredinol 2017.

Mae cyfanswm o 213 ymgeiswyr yn sefyll mewn 40 etholaeth yng Nghymru – gydag ymgeiswyr yn cystadlu mewn 650 etholaeth ledled gwledydd Prydain.

Mae’r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru, tra bod UKIP yn cystadlu 32 sedd a’r Gwyrddion yn cystadlu 10.

Bydd gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10yh heno ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener.

Agorodd y gorsafoedd am 7yh ac mae nifer eisoes wedi pleidleisio â phleidlais trwy’r post.