Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dynes 70 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd neithiwr.

Bu farw Christine Rowe yn y fan a’r lle wedi i fan Ford Transit wrthdaro â’i char Vauxhall Zafira yn Heol Cas-gwent, Casnewydd tua 7yh nos Lun, 5 Mehefin.

Cafodd dyn 80 oed a oedd yn teithio yn y Vauxhall Zafira ei gludo i’r ysbyty gyda man anafiadau.

Mae teulu’r ddynes yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu.

Dywed yr heddlu bod gyrrwr y fan, dyn 34 oed, wedi “ffoi” ar ôl y gwrthdrawiad ond cafodd ei arestio yn ddiweddarach a’i gyhuddo ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Credir bod y fan wedi bod yn gysylltiedig â dau wrthdrawiad arall ar wahân yn y munudau cyn y digwyddiad, y cyntaf yn Heol Caerdydd a’r llall yn Stryd George.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad angheuol neu a welodd y fan yn gyrru ar hyd   Heol Caerdydd neu Stryd George.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.