Mae pethau wedi newid cymaint i Theresa May, meddai Aled G Job…

Gyda dyddiau’n unig yn weddill bellach yn yr Etholiad Cyfredinol, teg fyddai mentro dweud mai dyma’r etholiad mwyaf bizarre a welwyd yng ngwledydd Prydain ers blynyddoedd mawr.

Ar gychwyn yr ymgyrch, roedd hi’n ymddangos mai cael ei choroni yn hytrach na chael ei hethol fyddai tynged y Prif Weinidog Theresa May, gyda’r polau piniwn yn rhoi mantais sylweddol o 20 pwynt a mwy iddi dros arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Gyda May yn destun lled-addoliaeth cyhoeddus ar y dechrau o’i gymharu gyda’r canfyddiadau cyffredinol negyddol am Corbyn,  a 200 o’i aelodau seneddol ei hun yn wrthwynebus iddo, y dybiaeth gyffredinol oedd y byddai’r ymgyrch yn un o’r rhai mwyaf unochrog a diflas erioed. Ond, mae geiriau Harold Wilson ” A week is a long time in politics” yn ymddangos yn fwy proffwydol nag erioed heddiw.

Pwy mewn difri calon a ddychmygai y byddai Corbyn yn profi’n ymgyrchydd mor ddygn ac egniol ac yn ennill yr ymgyrch ei hun beth bynnag fydd y canlyniad dydd Iau nesaf?

Gyda ambell bol piniwn yn dangos fod rhai o’i bolisiau sylfaenol megis adfer addysg prifysgol rhad ac am ddim, gwladoli’r rheilffyrdd a chychwyn trethu pobl o’r newydd ar drothwy o £80,000 y flwyddyn yn hynod boblogaidd, mae Corbyn wedi llwyddo i gipio’r dychymyg cyhoeddus mewn modd na welwyd yng ngwleidyddiaeth Gwledydd Prydain ers 20 mlynedd a mwy.

I raddau mae Jeremy Corbyn wedi gallu troi etholiad am Brexit yn etholiad am faterion bara a chaws, ac mae hynny’n sicr yn fanteisiol iddo.

Pwy fyddai’n meddwl?

A phwy fyddai’n meddwl y byddai Theresa May yn cynnal ymgyrch mor drybeilig o sal, yn gwneud sawl tro pedol a diethrio rhai o’i chefnogwyr craidd selocaf gyda’i pholisi o werthu tai pobol yn gyfnewid am ofal cartref?

Ac wrth gwrs, roedd ei phenderfyniad i beidio cymryd rhan yn nadl yr arweinwyr ar  y teledu  hefyd yn fodd i gynyddu’r teimlad cyhoeddus mai arweinydd gwan a di-asgwrn cefn yw Theresa May mewn gwirionedd, yn gwbl groes i’r mantra hwnnw am fod yn arweinydd cryf a sefydlog.

Pwy fyddai’n rhagweld y byddai pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, a hwythau mor obeithiol o fanteisio ar y 48% a bleidleisiodd o blaid aros yn yr UE y llynedd, yn cael ei chwalu i’r ffasiwn raddau?

Mae’n nodwedd od mewn etholiad hynod od,  bod yr unig blaid sy’n sefyll yn gadarn yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac a fyddai wedi disgwyl dibynnu ar gefnogaeth hyd at hanner y boblogaeth, wedi cael eu gwasgu cymaint gan y pleidiau eraill.

A phwy fyddai’n dychmygu am funud y gallai plaid genedlaethol Yr Alban, yr SNP, fod mewn sefyllfa i fod yn rhan o glymblaid yn Llundain pe bai’n senedd grog ddydd Iau? A fyddan nhw’n barod i ffeirio’r nod o annibyniaeth er mwyn cael rhannu grym yn Llundain?

Problem Nicola Sturgeon

Cur pen posib i Nicola Sturgeon ond a fyddai hi mewn difrif yn gallu gwrthod cynnig felly a hithau’n wleidydd mor ardderchog sydd ben ac ysgwyddau uchben pob gwleidydd arall yn yr ynysoedd hyn bellach? Ai hi yw’r un i achub Ynys Prydain rhag Brexit dinistriol?

Mae’r etholiad hwn fel petai wedi troi popeth wyneb-i-waered dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n ddigon i chwalu pen dyn yn llwyr- ac mae yna wythnos i fynd o hyd!

Ond, mae’n bosib mai’r digwyddiad sydd wedi cael yr effaith mwyaf ar yr ymgyrch hyd yma yw’r bomio dychrynllyd a ddigwyddodd ym Manceinon( gyda digwyddiad tebyg hefyd yn Llundain dros y Sul).

Rhoddodd y bomio derfyn ar unrhyw obeithion oedd gan y Ceidwadwyr i redeg ymgyrch ymffrostgar, gung-ho Brecsitaidd gan gorddi teimladau yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd gan y byddai hynny yn gwbl amhriodol o dan yr amgylchiadau.

Ymhellach, roedd y digwyddiad hwn yn fodd i daflu goleuni o’r newydd ar nifer o fethiannau sylfaenol yn yn ystod teyrnasiad Theresa May fel Ysgrifennydd Cartref. Yn sylfaenol, roedd y bomio’n gyfrwng i ddangos y gwirionedd am Brydain heddiw: lle bregus, ofnus, ansicr a di-gyfeiriad.

Tybed a yw’r bomio wedi dwysau’r teimlad hwnnw sydd wedi bod yn cyniwair ym meddwl  cyhoedd dros y misoedd diwethaf mai gambl anferthol a naid i’r tywyllwch yw Brexit yn y bon, ac mewn sefyllfa felly eu bod wedi penderfynu yn eu doethineb mai senedd grog fyddai’r canlyniad gorau i bawb ddydd Iau nesaf?

Efallai mai’r synnwyr bellach yw y byddai clymblaid sy’n cynnwys tri neu bedwar o arweinwyr yn llawer mwy tebygol o geisio datrysiad cymodlon, synhwyrol, a rhesymol gyda’r Undeb Ewropeaidd na gadael y cwbl yn nwylo sigledig Theresa May.

A allwn ni gredu’r polau piniwn?

Mae eraill yn wfftio’r polau piniwn diweddaraf gan amau bod yna rymoedd tywyll ar waith yma er mwyn manipiwleiddio’r farn gyhoeddus a dychryn cefnogwyr traddodiadol y Ceidwadwyr i droi allan ddydd Iau er mwyn rhwystro Jeremy Corbyn.

Beth bynnag am hynny, mae greddf a phrofiad yn dueddol o ddweud wrth ddyn ei bod hi’n annhebyg iawn y bydd “Middle England”- y bloc anferthol ceidwadol hwnnw sy’n penderfynu pob etholiad cyffredinol- yn troi cefn ar Theresa May ddydd Iau. Ond wedyn, pwy a wyr erbyn hyn a ninnau’n byw mewn cyfnod mor gyfnewidiol ac ansicr.

Mae’n debyg y bydd y canlyniad yn dibynnu’n llwyr ar faint o gefnogwyr y ddwy brif blaid a gaiff eu sbarduno i fynd i bleidleisio ddydd Iau. Mae ystod canrannau cefnogaeth y Ceidwadwyr mewn polau dros yr wythnosau diwethaf yn amrywio o 42% i 49% o’r etholwyr a chanrannau Llafur yn amrywio o 33% i 38%.

Gyda’r ffasiwn ystod hwn, gallai mantais y Ceidwadwyr mewn seddi fod yn 120 ar y naill law neu fe alle nhw golli eu mantais seddau yn llwyr(Colli 12 sedd+ a chymryd y bydd Llafur yn cadw gafael ar eu seddau presennol) ar y llaw arall. Pe bai Llafur yn gallu cyrraedd 38%, byddai hynny’n fwy na thebyg yn gwarantu senedd grog.

Yn y model a ddefnyddiwyd gan Yougov i fesur y pleidleiswyr hyn, rhagwelir y bydd 51% o bobl ifanc rhwng 18 a 25 yn troi allan i bleidleisio dros y Blaid Lafur. Cofier bod hyd at 2 filiwn o’r bobol ifanc hyn wedi cofrestru o’r newydd i bleidleisio, a dyna’r rheswm y mae’r bwlch a ddangosir gan Yougov rhwng y ddwy brif blaid mor dynn (3%).

Mae’r polwyr eraill yn dueddol o amau a fydd y bobl ifanc hyn yn ddigon ymroddedig i droi allan i’r graddau hyn ddydd Iau, ac yn rhagweld felly mai 35% o’r garfan hon fydd yn bwrw pleidlais yn y pendraw, gan olygu y bydd gan y Ceidwadwyr fantais o tua 10% i 15% ddydd Iau.

Mi ddywedodd y Ffrancwr Jean Jacques Rosseau unwaith mai dim ond yn ystod etholiadau cyffredinol yr oedd pobl Lloegr yn rhydd mewn gwirionedd( ac mi fyddai ei ddadl o yr mor berthnasol inni’r Cymry hefyd mae’n debyg).

“Unwaith y maent wedi dewis eu cynrychiolwyr seneddol, maent yn dychwelyd i fod yn gaethweision iddynt,” meddai.

Yn sicr, mae’r cyfnod hwn yn teimlo’n un ymryddhaol iawn a llawn gobaith ar sawl ystyr, Mae yna deimlad bod llawer o’r hyn y mae ein gwleidyddion wedi bod yn ei bedlera ers sawl blyddyn bellach wedi cael ei herio’n gynyddol dros yr wythnosau diwethaf ac mae hynny’n beth llesol iawn i ddemocratiaeth.

Does ond gobeithio y gellid herio barn Rousseau ar ol dydd Iau a pharhau i gadw golwg barcud ar ein cynrychiolwyr wrth iddynt fynd ati i reoli ar ein rhan dros y blynyddoedd nesaf.